This website uses browser storage to make it easier to use. Please check the box if you consent to this and enable accessibility option. You can find more detail here

Ymgyrch Grebe

Sut rydyn ni'n mynd i'r afael â throseddau sy'n gysylltiedig â beiciau a throseddau sy’n cael eu hwyluso drwy ddefnyddio beiciau.


Ymgyrch Grebe: Apêl am wybodaeth

Rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl yn ne Cymru yn pryderu am unigolion sy’n gyrru beiciau - gan gynnwys beiciau modur trydanol a beiciau oddi ar y ffordd – mewn modd anghyfreithlon, i gyflawni gweithgareddau troseddol neu i ymddwyn yn wrthgymdeithasol.

Yn rhan o Ymgyrch Grebe, rydyn ni'n cynyddu ein hymdrechion i fynd i'r afael â'r problemau hyn a sicrhau bod ein strydoedd a'n ffyrdd yn ddiogelach i bawb.

Mae cael gwybodaeth gennych chi yn ein helpu i fynd i'r afael â throseddau sy'n ymwneud â beiciau. Mae angen gwybodaeth arnom am feiciau sy'n cael eu gyrru mewn modd anghyfreithlon, beiciau nad ydynt yn gyfreithlon ar gyfer y ffordd a beiciau sy'n gysylltiedig â gweithgarwch troseddol, fel gwerthu cyffuriau.

Rydyn ni'n cau’n dynn ar y rheini sy'n defnyddio beiciau i gyflawni troseddau, achosi difrod troseddol, neu ymddwyn yn wrthgymdeithasol.

Mae defnyddio beiciau yn anghyfreithlon yn rhoi'r cyhoedd a'r beicwyr eu hunain mewn perygl.

Pa fath o wybodaeth sy'n ddefnyddiol?

Helpwch i gadw'ch cymuned yn ddiogel a dywedwch wrthym beth rydych chi'n ei wybod am feiciau sy'n cael eu defnyddio'n anghyfreithlon neu i gyflawni troseddau:

• Yr union leoliad, dyddiad ac amser y gwelwyd y beic/beiciau

• Unrhyw beth nodedig – lliw, gwneuthuriad, a oedd plât rhif gan y beic

• Ble maen nhw'n cael eu storio?

• Pwy sy'n eu gyrru'n anghyfreithlon, a beth roedden nhw'n ei wisgo?

• Pwy sy'n achosi difrod troseddol? 

• Pwy sy'n rhoi'r cyhoedd a'u hunain mewn perygl?

Contact Information

Dewiswch y botwm 'Cliciwch yma i gyflwyno eich gwybodaeth'.