This website uses browser storage to make it easier to use. Please check the box if you consent to this and enable accessibility option. You can find more detail here
× Select form for submission

Ymgyrch Grebe: defnydd anghyfreithlon o feiciau

Helpwch i gadw'ch cymuned yn ddiogel a dywedwch wrthym beth rydych chi'n ei wybod am feiciau sy'n cael eu defnyddio'n anghyfreithlon:


Apêl am wybodaeth

Rydym yn gwybod bod llawer o bobl yn ne Cymru yn pryderu am feiciau – gan gynnwys beiciau modur trydanol a beiciau oddi ar y ffordd – sy'n cael eu gyrru'n anghyfreithlon.

Fel rhan o Ymgyrch Grebe, rydym yn cynyddu ein hymdrechion i fynd i'r afael â'r problemau hyn a sicrhau bod ein strydoedd a'n ffyrdd yn ddiogelach i bawb.

Mae arnom angen gwybodaeth am feiciau sy'n cael eu gyrru mewn modd anghyfreithlon, am feiciau nad ydynt yn gyfreithlon ar gyfer y ffordd, ac am feiciau sy'n gysylltiedig â throseddau fel gwerthu cyffuriau. Mae reidio beiciau yn anghyfreithlon yn rhoi'r cyhoedd a'r beicwyr eu hunain mewn perygl, gellir eu defnyddio i gyflawni trosedd, gall achosi difrod troseddol, a gellir tybio bod hyn yn ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Pa fath o wybodaeth sy'n ddefnyddiol?

Yr union leoliad, dyddiad ac amser y gwelwyd y beic/beiciau
Unrhyw beth nodedig – lliw, gwneuthuriad, a oedd plât rhif gan y beic
Ble maen nhw'n cael eu storio?
Pwy sy'n eu gyrru'n anghyfreithlon, a beth roedden nhw'n ei wisgo?
Pwy sy'n achosi difrod troseddol? 
Pwy sy'n rhoi'r cyhoedd a'u hunain mewn perygl?

Contact Information

Dewiswch y botwm 'Cliciwch yma i gyflwyno eich gwybodaeth'.