PERSON COLL – GLYN GRIFFITHS
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth gan y cyhoedd mewn cysylltiad â diflaniad Glyn GRIFFITHS ar yr 20fed o Fehefin 2021.
DIFLANIAD GLYN GRIFFITHS
Gwelwyd Glyn Griffiths, sydd yn 62 oed yn awr, ddiwethaf nos Sul 20fed o Fehefin 2021.
Yn gynharach y prynhawn hwnnw, rhwng hanner dydd a 12.45pm, aeth i Asda ar Heol Pontygwyndy, Caerffili.
Daeth swyddogion o hyd i gar Glyn (Suzuki Grand Vitara du, rhif plât X404 JRX) ger Heol y Dderwen yn Nantgarw, Rhondda Cynon Taf, ddydd Mercher 28ain o Orffennaf 2021.
Yn ôl y disgrifiad mae Glyn yn 5’9” o daldra, mae’n fain ac mae ganddo wallt llwyd.
Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, lluniau neu ddelweddau fideo rydych chi’n credu y gallant ein helpu i ganfod lle mae Glyn ar hyn o bryd, defnyddiwch y ffurflen isod i’w cyflwyno.