YMGYRCH MELEX – DARGANFOD CORFF BABAN NEWYDD-ANEDI
Mae ditectifs yn apelio am wybodaeth ar ôl i gorff baban newydd-anedig gael ei ddarganfod wrth lan y môr, ger Ffordd Gorad, Bangor, Gwynedd, ddydd Sul, 27 Medi 2026.
Details of Incident
Am 4:51p.m. ar ddydd Sul 27 Medi 2026, cysylltodd aelod o'r cyhoedd â Heddlu Gogledd Cymru ar ôl dod o hyd i gorff baban newydd-anedig yn ardal arfordirol, ger Ffordd Gorad.
Mae’r heddlu’n gweithio gyda phartneriaid er mwyn deall yn union beth ddigwyddodd. Mae Crwner Ei Fawrhydi wedi cael gwybod am yr achos, ac mae archwiliad post mortem wedi’i drefnu ar ran y Swyddfa Gartref ar gyfer prynhawn dydd Mercher.
Mae pryder mawr am iechyd y fam. Mae’n bosib ei bod mewn sefyllfa fregus iawn ac angen help ar frys. Mae'n bosib ei bod yn ofni chwilio am yr help sydd ei angen arni rhag iddi gael ei hadnabod. Bydd y trawma y mae'r fam hon wedi'i brofi yn parhau i effeithio arni hi, oni bai ei bod yn cael yr help priodol cyn gynted â phosib.
Rydym yn pryderu efallai nad ydy hi mewn sefyllfa i ofyn am help, ac felly rydym yn apelio'n uniongyrchol at y fam, y tad, ac unrhyw un a allai fod efo gwybodaeth. Gallai hyn gynnwys ffrindiau, cymdogion neu gydweithwyr.
Rydym yn deall y gall fod yn anodd iawn cysylltu efo ni, ond nid ydy gwneud dim yn opsiwn. Mae angen help ar y fam hon ar frys. Os oes gynnoch chi unrhyw wybodaeth, rydym yn gofyn i chi wneud y peth iawn er mwyn sicrhau bod y fam hon yn cael yr help meddygol sydd ei hangen arni.
Bydd pob enw'n cael ei drin yn gwbl gyfrinachol a gellir dileu unigolion o’n hymholiadau ni heb oedi.
Os oes gynnoch chi unrhyw wybodaeth frys neu os oes gynnoch chi bryderon uniongyrchol am unigolyn, ffoniwch 999.
Contact Information
Os oes well gynnoch chi siarad efo triniwr galwadau, ffoniwch 101 gan ddefnyddio’r cyfrinair O160031 (Ymgyrch Melex)
Gallwch hefyd gysylltu efo Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Ymholiadau a Datrysiadau Pobl y Bwrdd Iechyd – 03000 851 234 (o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm)